11 Aug
11Aug

Dathlodd Côr Meibion Rhos dros y penwythnos ar ôl buddugoliaeth syfrdanol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Aeth deugain aelod o’r côr ar lwyfan yr Eisteddfod ddydd Sadwrn 9fed Awst a churo wyth côr arall o bob cwr o Gymru i ennill cystadleuaeth y côr meibion. Dyma’r tro cyntaf i’r cyfarwyddwr cerdd James Llewelyn Jones, sydd wedi bod gyda’r côr ers 2016, gystadlu gyda’r côr. Perfformiodd y côr raglen heriol gan gynnwys gosodiad o Salm 150 gan y cyfansoddwr Cymreig Eric Jones, a Gwinllan A Roddwyd gan Caradog Williams. Hefyd yn y rhaglen roedd “Cythraul” - darn gan y cyfansoddwr Hwngaraidd Gyorgy Orban: ysgrifennwyd yn wreiddiol yn Lladin, cafodd y testun ei gyfieithu i’r Gymraeg gan aelodau’r côr i gydymffurfio â rheolau’r Eisteddfod. Credir mai dyma’r tro cyntaf i’r darn hwn gael ei berfformio yn y Gymraeg. Roedd y beirniaid yn arbennig o hoff o berfformiad y côr o’r hwiangerdd draddodiadol Si Hei Lwli Mabi gan y cyfansoddwr lleol Emyr James. Ar ôl y fuddugoliaeth, dywedodd James Llewelyn Jones: “Rwy’n hynod falch o’r côr. Mae hwn yn gyflawniad gwych, ac yn adlewyrchu misoedd o waith caled iawn. “Hoffwn ddiolch i’r côr cyfan a’n cyfeilyddion Heather Howell, Christopher Enston a Rachel Phillips, am eu hymroddiad a’u hymdrech. “Roedden ni’n gwybod bod rhai corau da iawn yn cystadlu eleni. Roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid i ni fod ar ein gorau glas i ennill. “Gobeithiwn y bydd hyn yn fan cychwyn ar gyfer pethau mwy yn y dyfodol.”

Sylwadau
* Ni fydd yr e-bost yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.