Dywed y dyfyniad:"Un o feibion nodedig Rhosllannerchrugog yw Gareth Pritchard Hughes, ond dewisodd hwn aros a chyfoethogi bywyd diwylliannol ei fro Mae'n ysgolhaig uchel ei barch, yn ddarlithydd, yn diwtor, yn darlledwr caboledig ei arddull, yn gyd-olygydd y Papur Bro am dros ddeuddeng mlynedd ar hugain, a'i lais dwfn fel angor mewn mwy nag un cor yn yr ardal".